4 Bardd, 24 Awr, 100 Cerdd

2 Hyd 2018

#Her100Cerdd yn dychwelyd ar gyfer 2018

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd  Her 100 Cerdd  yn dychwelyd unwaith eto eleni, a hynny am y chweched flynedd yn olynol. Ar  ddydd Iau 4 Hydref,  sef Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, byddwn yn herio pedwar bardd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.

Y pedwar prysur fydd  Manon Awst, Caryl Bryn, Morgan Owen  ac  Osian Owen.

Bydd gofyn i bob un o'r beirdd ysgrifennu o leiaf un gerdd bob awr i gyflawni'r Her 100 Cerdd mewn da bryd. Mae timoedd y gorffennol wedi cyrraedd y nod gydag eiliadau'n unig yn weddill. Tybed a fydd criw 2018 yn llwyddo i ddilyn eu hesiampl a gorffen cyn i'r cloc daro deuddeg?

Bydd y tîm yn cychwyn arni am hanner dydd ar ddydd Iau 4 Hydref, sef  Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth,  dathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol, ac yn rhoi'r atalnod llawn ar y gerdd olaf cyn hanner dydd ar ddydd Gwener 5 Hydref. Bydd y cerddi oll yn cael eu cyhoeddi ar-lein ar  www.llenyddiaethcymru.org  yn syth wedi eu cwblhau.

Unwaith eto eleni, caiff y cyhoedd eu gwahodd i ymuno yn yr Her drwy awgrymu testunau a gyrru geiriau o anogaeth dros y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y pedair awr ar hugain.

Ers ei sefydlu yn 2012, mae'r Her wedi cynnig cipolwg ar y Gymru sy'n bodoli ar y diwrnod hwnnw - ei gwleidyddiaeth, ei diddordebau, ei newyddion a'i diwylliant. Ymysg y 500 o gerddi a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd mae cerddi serch a cherddi dychan; cerddi ar gerddoriaeth a cherddi ar y cyd; cerddi am borc peis, babanod newydd a hyd yn oed ffrae epig rhwng John ac Alun a'r Brodyr Gregory!


Y Beirdd

Artist ac ymchwilydd yw Manon Awst. Yn wreiddiol o Fôn, astudiodd Bensaernïaeth yng Ngholeg Emmanuel, Prifysgol Caergrawnt ac astudiaethau Ymchwil Artistig yn Royal College of Art, Llundain. Erbyn hyn mae hi'n datblygu gosodiadau a chomisiynau celf o'i stiwdio yng Nghaernarfon, ac yn fyfyrwraig PhD rhan-amser ym Mhrifysgol Bangor yn archwilio arwyddocâd gwaith celf safle-benodol yng Nghymru. Ers mynychu'r Cwrs Cynganeddu yn Nhŷ Newydd yn 2017 mae Manon yn mwynhau datblygu ei gwaith barddoni ac yn perfformio yn rheolaidd efo'r grŵp barddol Cywion Cranogwen.

Daw  Caryl Bryn  yn wreiddiol o Amlwch, ym Môn, ond mae bellach wedi ymgartrefu'n Llanberis ger Caernarfon. Graddiodd yn 2017 o Brifysgol Bangor ac mae ar fin dychwelyd i'r Brifysgol honno i astudio MA Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg. Mae'n cyhoeddi cyfrol o gerddi (Cyhoeddiadau'r Stamp) ddechrau'r flwyddyn ac yn edrych ymlaen at ddechrau cystadlu  â'i thîm Talwrn.

Bardd o Ferthyr yw  Morgan Owen. Astudiodd radd BA ac MA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Bellach mae’n astudio ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd Dlws D Gwyn Evans ddwywaith yn olynol, yn 2017 ac yn 2018. Bu'n rhan o gynllun Awduron wrth eu Gwaith yng Ngŵyl y Gelli eleni, ac ef oedd bardd yr Arddangosfa Bensaernïaeth yn y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Daw  Osian Wyn Owen  o'r Felinheli yn wreiddiol, ond bu'n byw ym Mangor ers tair blynedd fel myfyriwr. Mae'n gyn-ddisgybl yn Ysgol y Felinheli ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Graddiodd  â gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg fis Mehefin, ac mae newydd ddechrau astudio ar gyfer gradd Meistr mewn ysgrifennu creadigol ym Mangor. Bu'n ysgrifennu rhyddiaith ers rhai blynyddoedd, ond yn ddiweddar, mentrodd i fyd barddoniaeth. Cipiodd y dwbl, y Gadair a'r Goron, yn Eisteddfod Ryng-golegol 2017, cyn cipio'r Gadair yn Eisteddfod yr Urdd ym Mrycheiniog 2018. Mae'n rhan o griw ifanc o fyfyrwyr Bangor sydd wedi sefydlu cymdeithas lên newydd yn y Brifysgol - Cymdeithas John Gwilym Jones. Bydd Osian hefyd yn rhan o'r tîm Talwrn newydd yn y ddinas dysg.

Ymunwch yn yr Her 100 Cerdd gyda cheisiadau neu anogaeth trwy ddefnyddio'r hashnod  #Her100Cerdd ar Twitter, neu trwy yrru neges at Llenyddiaeth Cymru ar Facebook neu dros e-bost:  post@llenyddiaethcymru.org.  Bydd dolen i'r cerddi yn cael eu postio fesul un ar gyfrif Twitter @LlenCymru ac ar ein tudalen Facebook:  www.facebook.com/LlenCymruLitWales

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com