Nigel Owens ar Frig y Gwerthwyr Gorau

23 Rhag 2009

Y llyfr Saesneg a werthodd orau trwy Ganolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru dros gyfnod y Nadolig oedd hunangofiant Nigel Owens,  Half-time  (Y Lolfa).

Fersiwn Saesneg wedi ei ddiweddaru o'r hunangofiant poblogaidd, Hanner Amser a gyhoeddwyd yn 2008. Mae Nigel Owens yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau 'Noson Lawen' fel diddanwr, ar raglenni teledu fel 'Jonathan', ac ar feysydd rygbi fel un o ddyfarnwyr gorau'r byd. Ond cyn cyrraedd uchelfannau'r byd rygbi bu trwy argyfwng personol dirdynnol.

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com