Casgliad o ryseitiau blasus gan y cogydd Bryn Williams

10 Maw 2011

Mae Bryn Williams, un o gogyddion mwyaf adnabyddus Cymru, newydd gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o ryseitiau, sef  Bryn’s Kitchen: 5 brilliant ways to cook 20 great ingredients.

Yn wreiddiol o Ddinbych, Bryn yw perchennog a phrif gogydd bwyty Odette’s ym Mryn y Briallu yn Llundain. Daeth yn enw cyfarwydd wedi iddo ymddangos ar raglen deledu’r BBC,  Great British Menu,  yn 2006. Ers hynny, mae Bryn yn wyneb cyfarwydd ar raglen   Saturday Kitchen,  yn ogystal â sawl rhaglen arall o Gymru.

Mae’r gyfrol, sy’n cynnwys nifer o ryseitiau blasus, yn rhoi sylw i gynhwysion arbennig ac yn dangos sut y gellir eu coginio mewn gwahanol ffyrdd, yn amrywio o’r seigiau mwyaf syml i rai cymhleth a heriol. Gan ddefnyddio cynhwysion ffres, mae’r llyfr hwn gan Bryn yn siŵr o’ch ysbrydoli i goginio!

Dyma gyfrol chwaethus ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau her yn y gegin, ac yn llyfr delfrydol i’w roi’n anrheg ar Sul y Mamau.

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com