Lansio Cyfrol Aneirin Karadog

26 Maw 2012

Lansiwyd cyfrol o farddoniaeth gan Aneirin Karadog,  O Annwn i Geltia  (Barddas), mewn digwyddiad yng Nghaerfyrddin nos Sadwrn, 24 Mawrth.

Cyfrol o farddoniaeth gan Aneirin Karadog, gyda 20 o ddelweddau trawiadol gan yr arlunydd Huw Aaron. Mae'n gyfrol o gerddi craff, amrywiol eu mydryddiaeth - cerddi ffraeth, cerddi sy'n cwestiynu a cherddi sy'n chwilio am hunaniaeth y bardd.

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com