Adnoddau

Casgliad o gardiau brwydro gyda lluniau cymeriadau o lyfrau plant Cymraeg

Mae Diwrnod y Llyfr yn elusen sy’n newid bywydau trwy gariad at lyfrau a darllen. 

Mae darllen er pleser yn arwydd hanfodol o lwyddiant plentyn yn y dyfodol – felly rydym am weld mwy o blant yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig, yn magu’r arfer o ddarllen er pleser gydol eu hoes.

Mae gweithgareddau dathlu yn rhan arbennig o Ddiwrnod y Llyfr ac os ydych am gynnal dathliad eich hunan, yna beth am ddefnyddio ein Pecyn Syniadau sydd yn llawn syniadau a templedi ar eich cyfer.

Mae yna hefyd posteri ar gael i lawrlwytho neu gallwch cysylltu â ni os ydych am copiau caled.

   

Hoffech chi gynnal gwasanaeth arbennig yn eich ysgol chi ar gyfer Diwrnod y Llyfr? Gellir ddefnyddio yr adnodd Gwasanaeth Caru Darllen yma.

Ydych chi’n dathlu Diwrnod y Llyfr 2024 ac yn chwilio am ysbrydoliaeth? Beth am bori ein pecyn o 80 o syniadau! Cliciwch ar y linc isod i lawrlwytho:  

Beth am gêm o Cardiau Brwydro? Ry’n ni wedi defnyddio 39 o gymeriadau o lyfrau Cymraeg i greu gêm llawn hwyl a sbri!