Enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2021

Dwy nofel gyfoes ac un hanesyddol ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021, gyda merched dewr yn serennu ymhob un o’r tri llyfr buddugol.

Cloriau'r tri llyfr ddaeth i'r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021 sef Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa), #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwlach) a The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press).

 

 

Y tri llyfr ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021 oedd Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa), #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwlach) a The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press).

CATEGORI CYMRAEG – CynRADD

Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa, 2020) oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd yn 2021. Stori gyfoes yw hon am ferch naw oed o’r enw Sara Mai sy’n byw yn sw ei rhieni ac sy’n ei chael hi’n haws i ddeall ymddygiad creaduriaid rhyfeddol y lle nag ymddygiad merched eraill ei dosbarth ysgol. Mwy…

CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd yn 2021 oedd #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch, 2020). Mae’r nofel yn adrodd stori merch yn ei harddegau o’r Rhyl a’r hyn sydd yn digwydd iddi ar ôl colli’r bws i’r ysgol un bore – digwyddiad digon cyffredin ond un sydd yn newid cwrs ei bywyd. Mwy…

CATEGORI SAESNEG

The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press, 2020) – nofel bwerus a chyffrous i bobl ifanc wedi’i gosod yn yr Oesoedd Canol cynnar – ddaeth i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc. Mwy…

 

MANYLION PELLACH